Ein gwaith ni yng Nghymru
Mae gan Gymru doreth o gynefinoedd a phob un yn llawn o blanhigion a ffwng gwyllt. Yn anffodus mae nifer o rain yn prinhau. Mae gan Plantlife Cymru dîm o staff gwybodus ac ymroddgar yn gweithio i’w diogelu.


Etholiad Senedd 2026 – Amser i Weithredu er Lles Byd Natur yng Nghymru!
Ym mis Mai eleni fe fydd gan Gymru Senedd a Llywodraeth newydd. Bydd y tymor Senedd yma’n rhedeg hyd at 2030 – blwyddyn allweddol. Erbyn y flwyddyn yma fydd disgwyl i Gymru fod yn rheoli 30% o’i dir a’i ddŵr er lles natur er mwyn cyrraedd targedau amgylcheddol byd-eang.
Mae hwn yn foment bwysig i natur ac mae Plantlife Cymru’n pwyso ar y Senedd a’r Llywodraeth newydd i roi natur wrth galon ei raglen ddeddfwriaethol a’i waith. Er mwyn gwneud hyn rhaid sicrhau bod llais planhigion gwyllt a ffyngau’n cael eu clywed yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Achub Coedwigoedd Glaw Cymru – chwarae ein rhan
Oes, mae gennym goedwigoedd glaw yng Nghymru! Mae’r coedwigoedd glaw tymherus hyn ymysg ein cynefinoedd mwyaf arbennig ond prin. Yn gyfan gwbl mae coedwigoedd o’r math yn tyfu ar dim ond 2% o’r blaned.
Mae amrywiaeth syfrdanol o gennau, mwsoglau a llysiau’r afu yn ffynnu yn ein coedwigoedd derw hynafol oherwydd hinsawdd damp a mwyn Cymru. Ond maen nhw o dan fygythiad. Mae Plantlife Cymru’n gweithio fel rhan o Gynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru i sicrhau dyfodol hir ac iach iddynt.

Natur am Byth!
Ein cri yw ‘Natur am Byth’ wrth i ni weithio i achub rhywogaethau sydd yn arbennig i Gymru ond sydd â’r perygl mwyaf o ddiflannu’n llwyr. Mae Plantlife Cymru’n canolbwyntio ar achub blodau a rhedyn coeth y mynydd yn Eryri, a chennau a mwsoglau cain sy’n perthyn i goed hynafol ac esgeiriau creigiog ar hyd y gororau ac yn y Canolbarth.
Yn y prosiect hynod yma rydym yn gweithio gydag wyth corff cadwraethol arall a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i achub amrywiaeth eang o rywogaethau.

Tyfu ein Glaswelltiroedd – Prosiect Glaswelltiroedd Gwydn
Ein cenhadaeth yw i ‘dyfu’r’ arwynebedd o laswelltir lled naturiol yng Nghymru. Bellach dim ond 9% o dir Cymru sydd â gweundiroedd llawn lliw a bywyd. Gweddillion trist o weundiroedd eang yw ‘r rhain a arferai llenwi 90% mwy o dir 50 mlynedd yn ôl.
Maen nhw mor dda ar gyfer bywyd gwyllt, da, lleihau llifogydd a storio carbon. Fel rhan o brosiect Glaswelltiroedd Gwydn rydym yn gweithio gyda ffermwyr, mudiadau amaethyddol a cholegau. Rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn eu hannog i gymryd camau i greu mwy o laswelltiroedd yn gyforiog o rywogaethau.
Blog

Leave a message
"*" indicates required fields




